Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Mawrth 2023
Amser:
09.30 -
12.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13434
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Jonathan Morgan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Rebekah James (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2. Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jonathan Morgan, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
3 Papur(au) i'w nodi
3.1 Llythyr oddi wrth Kyowa Kirin, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, Clwstwr y Gogledd, ynghylch blaenoriaethu Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru ar gyfer 2022-26
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad o fwriad y polisi o ran Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru).
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Llythyr oddi wrth y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Llythyr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 26 Ionawr 2023
3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.5 Rhagor o wybodaeth gan Cancer Research UK yn dilyn sesiwn tystiolaeth lafar yr ymchwiliad ar wasanaethau endosgopi ar 2 Chwefror 2023
3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a gafwyd.
5.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar ei adroddiad drwy e-bost, cyn ei gyhoeddi ar 6 Mawrth 2023.
6 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol wedi'i harwain gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
7 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur briffio technegol a ddaeth i law.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i adolygu ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.